Pwysig
- Arhoswch 90 diwrnod cyn i chi roi gwybod i ni am daliadau sydd ar goll. Gall gymryd hyd at dri mis i arian gael ei dalu i mewn i'ch pensiwn.
- Os ydych wedi derbyn llythyr gan ddarparwr eich cynllun yn dweud wrthych fod eich cyflogwr wedi ei adrodd amdano wrthym ni, nid oes angen i chi roi gwybod i ni am hyn. Rydym eisoes yn ymwybodol o'r posibilrwydd hwn o dorri'r gyfraith ac rydym yn ymchwilio.
- Rhaid i chi fod yn gweithio yn y DU fel arfer.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni i asesu a yw eich cyflogwr yn gwneud y cyfraniadau pensiwn gofynnol.
Bydd TPR yn cymryd pob cam rhesymol i gynnal eich cyfrinachedd os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Ni fyddwn yn datgelu eich hunaniaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.
Cyn i chi ddechrau
Dylech siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf. Os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn, neu os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â hwy, rhowch wybod i ni am y mater.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
- Enw a chyfeiriad eich cyflogwr.
- Rhif Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) eich cyflogwr (os oes ganddo un).
Gallwch ddod o hyd i hyn ar slipiau cyflog, P60au, P45au a P11Dau. - Faint o arian rydych chi'n meddwl sydd ar goll a phryd y digwyddodd hyn (neu o leiaf amcangyfrifon).
- Y dystiolaeth rydych am ei hanfon atom.